Mae tîm criced Morgannwg wedi teithio 313.5 milltir ar gyfer gêm dyngedfennol yn erbyn Durham yn ail adran y Bencampwriaeth, sy’n dechrau ddydd Llun (Medi 23).
Llygedyn o obaith yn unig sydd ganddyn nhw o ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf.
Mae eu tynged allan o’u dwylo nhw eu hunain erbyn hyn, ond fe fyddan nhw’n awyddus i ennill cynifer o bwyntiau bonws â phosib, yn y gobaith fod canlyniad y gêm rhwng Swydd Gaerloyw a Swydd Northampton ym Mryste yn mynd o’u plaid.
Mae angen pedwar pwynt ar Swydd Northampton am ddyrchafiad, ac maen nhw’n ail yn y tabl ar hyn o bryd, a naw pwynt ar Swydd Gaerloyw sy’n drydydd.
Ar hyn o bryd, gyda 24 pwynt ar gael, mae gan Forgannwg 160 o bwyntiau yn y pedwerydd safle, Swydd Gaerloyw 176 a Swydd Northampton 181.
Ond fe allai’r tywydd drechu Morgannwg yn y pen draw, gan fod disgwyl glaw ar adegau dros y pedwar diwrnod.
‘Swydd Gaerloyw yw’r ffefrynnau’
Yn ôl Matthew Maynard, Swydd Gaerloyw yw’r ffefrynnau i orffen yn drydydd uwchlaw Morgannwg.
“Maen nhw un fuddugoliaeth ar y blaen, ond rydan ni’n mynd [i Durham] efo llygedyn o obaith,” meddai’r prif hyfforddwr yn dilyn buddugoliaeth Morgannwg dros Swydd Gaerlŷr.
“Mae ein canlyniad ni’n golygu rwan na all [Durham] gael dyrchafiad, ond byddan nhw am orffen mor uchel â phosib yn y gynghrair ac mi fyddan nhw’n dod aton ni’n galed.
“Mae gynnon nhw griw da o fowlwyr.”
Mae’n dweud ei fod yn gobeithio na fydd y daith hir i Durham yn effeithio ar y chwaraewyr, ac yn ddiolchgar fod ganddyn nhw ddiwrnod ychwanegol i baratoi ar ôl cyrraedd.
“Diolch byth fod y clwb wedi gadael i ni fynd ddiwrnod yn gynnar.
“Bydd hynny’n ein galluogi ni i ddod dros daith fws o saith awr a hanner, ac yna fe wnawn ni ymarfer yn dda ddydd Sul cyn i’r gêm ddechrau ddydd Llun, felly mi fyddwn ni’n rhoi’r siawns orau bosib i ni ein hunain.”
Sut mae modd cael dyrchafiad?
Gallai nifer pwyntiau’r tair sir fod yn dro trwstan arall yn y ras am ddyrchafiad.
Pe bai Morgannwg yn gorffen ar yr un nifer o bwyntiau â Swydd Gaerloyw neu Swydd Northampton, yna fe fyddai Morgannwg yn ennill dyrchafiad gan eu bod nhw wedi colli un gêm yn llai na Swydd Gaerloyw, ac wedi ennill mwy o bwyntiau na’u gwrthwynebwyr yn y ddwy gêm yn erbyn Swydd Northampton.
O ganlyniad, mae Chris Cooke, y capten, hefyd yn teimlo nad yw gobeithion Morgannwg ar ben yn llwyr.
“Mae’n wych cael mynd i Durham gyda llygedyn o obaith, ac rydyn ni’n gwybod y gallwn ni gadw trefn ar yr hyn sy’n bosib i ni gadw trefn arno, a sicrhau ein bod ni’n ennill cynifer o bwyntiau ag y gallwn ni, ac fe gawn ni weld wedyn beth sy’n digwydd ym Mryste,” meddai.
“Rhaid i ni barhau i wneud yr hyn ry’n ni wedi bod yn ei wneud. Fe gawson ni bwyntiau batio llawn yn y gêm hon [yn erbyn Swydd Gaerlŷr, felly fe ddylen ni fod yn hyderus y gallwn ni wneud yr un peth eto.”
Monitro’r sefyllfa ym Mryste
Tra bydd Morgannwg yn canolbwyntio ar eu gêm nhw yn Durham, mae Chris Cooke yn dweud ei fod yn anochel y bydd ganddyn nhw lygad ar y gêm ym Mryste hefyd.
“Fel tîm rheoli, rhaid i chi gadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd, ac edrych ar ambell ap tywydd hefyd, ond fel y dywedais i, rhaid i chi reoli’r hyn y gallwch chi ei reoli.
“Fe fyddai’n ffôl pe baen ni’n poeni am bethau ym Mryste.
“Rhaid i ni ofalu am yr hyn y gallwn ni ei wneud yn Durham.”