Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud bod perfformiadau diweddar ei dîm yn addawol, ar ôl iddyn nhw guro Middlesbrough o 1-o yn y Bencampwriaeth ddoe (dydd Sadwrn, Medi 21).
Roedd peniad Ashley Fletcher i’w rwyd ei hun yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Adar Gleision.
Fe allen nhw fod wedi cael dwy gic o’r smotyn o fewn munud ar ôl i Gavin Whyte gael ei wthio gan Marvin Johnson, ac fe gafodd Callum Paterson ei lorio yn y cwrt cosbi hefyd.
Daeth un o gyfleoedd gorau’r Adar Gleision pan darodd Omar Bogle y trawst.
Mae Caerdydd bellach yn ddi-guro mewn pum gêm.
“Dw i bob amser wedi gwneud yn dda yn erbyn Boro, wrth fynd yn ôl i’m dyddiau fel chwaraewr,” meddai Neil Warnock.
“Rydych chi’n edrych ar eu carfan nhw ac yn credu y bydd goliau’n anodd i’w cael, ond dw i’n credu mai ni gafodd y cyfleoedd i gyd.
“Roedden ni’n dipyn nes at fod yn ni ein hunain heddiw, ond rhaid i ni barhau â hynny.
“Dydyn ni ddim wedi ennill oddi cartref ond rydyn ni’n dychwelyd i’r hyn roedden ni’na arfer bod.”