Roedd y penderfyniad i ddangos cerdyn coch i Jake Bidwell yn ystod gêm gyfartal ddi-sgôr Abertawe oddi cartref yn Bristol City ddoe (dydd Sadwrn, Medi 21) yn “benderfyniad gwael”, yn ôl y rheolwr Steve Cooper.

Cafodd y cefnwr chwith ei anfon o’r cae am dacl flêr ar Niclas Eliasson ar yr ystlys, ond roedd y gosb yn rhy llym, yn ôl y rheolwr, sy’n dweud y gallai’r clwb apelio yn erbyn y cerdyn coch.

“Roedd yn dacl flêr ac yn gerdyn melyn amlwg, ond roedd anfon Jake o’r cae yn benderfyniad gwael,” meddai.

“Fe wnaeth eu mainc nhw ymateb, a allai fod wedi dylanwadu ar y dyfarnwr, ond fe ddylai e fod wedi bod yn gryfach.

“Dw i wedi siarad â fe, ac fe ddywedodd e wrtha i fod ei gynorthwy-ydd yn teimlo ei fod yn gerdyn coch.

“Beth bynnag am hynny, fe fyddai’r rhan fwyaf o bobol a welodd y digwyddiad yn teimlo bod rhybudd yn ddigon.

“Dw i ddim yn hoffi gweld chwaraewyr yn cael eu hanfon o’r cae.”

‘Bwriad i anafu’

Ond dydy Lee Johnson, rheolwr Bristol City, ddim yn cytuno, gan gyhuddo Jake Bidwell o “fwriad i anafu” ei wrthwynebydd.

“O’r lle’r o’n i’n sefyll, roedd yn edrych fel pe bai yna fwriad i anafu Niclas, yn hytrach na dim ond ei stopio fe.

“Fe allai fod wedi bod yn gerdyn melyn ond pe bai wedi bod, mae’n debyg y bydden nhw wedi cael get-awê ag un.

“Dw i ddim yn credu y byddai apêl yn llwyddiannus.”