Mae nifer o chwaraewyr Cymru’n parhau i gynnig cefnogaeth i Rob Howley, is-hyfforddwr y tîm rygbi cenedlaethol, ar ôl iddo gael ei anfon adref o Gwpan Rygbi’r Byd ddechrau’r wythnos.
Daeth ei ymadawiad yn dilyn honiadau ei fod e wedi torri rheolau betio cyn mynd i Japan ar gyfer y gystadleuaeth.
Mae Stephen Jones wedi cymryd ei le ar drothwy’r gêm gyntaf yn erbyn Georgia ddydd Llun, wrth i Undeb Rygbi Cymru gynnal ymchwiliad i ymddygiad Rob Howley.
“Fe wnaeth Alun Wyn (Jones, y capten) sylw da wrth bawb – mae’r pethau hyn yn digwydd, rydych chi’n colli chwaraewyr, mae’r rhod yn troi o hyd ac mae’n rhaid i chi symud ymlaen,” meddai Warren Gatland.
“Mae wedi bod yn anodd, ond rhaid i chi dynnu llinell yn y tywod a chanolbwyntio ar eich gwaith a’ch rôl.
“Mae nifer o chwaraewyr a staff wedi estyn allan i Rob.
“Y peth mwyaf y gallwn ni ei wneud yw cynnig cymaint o gefnogaeth â phosib iddo fe.
“Allwn ni ddim newid yr hyn sydd wedi digwydd, ond mae’n bwysig ein bod ni’n cynnig cefnogaeth.”