Mae 230 o bobol wedi cael eu harestio yn Indonesia ar amheuaeth o gynnau tanau, yn ôl awdurdodau.

Ymhlith yr unigolion yma mae tri dyn a fu’n ceisio clirio tir mewn parc cenedlaethol er mwyn plannu cnydau. Mae’r parc yn gartref i 140 eliffant prin.

Mae tanau yn achosi problemau i Indonesia yn rheolaidd, ac mae’r mwg yn medru gorfodi ysgolion i gau ac yn achosi oediadau mewn meysydd awyr.

Mae 812,000 acer o dir wedi cael ei heffeithio gan dannau diweddar, ac mae awdurdodau wedi anfon 9,000 o bobol i ddelio â nhw.

Yn ôl Banc y Byd, mae tannau yn llyncu £12bn doler o economi Indonesia bob blwyddyn.