Mae bom ynghlwm wrth gerbyd heddlu wedi ffrwydro ger rali ymgyrchu arlywydd Affganistan, Ashraf Ghani, yn nhalaith ogleddol Parwan y wlad,

Mae o leiaf 24 o bobol wedi cael eu lladd. Roedd yr arlywydd yn bresennol, ond mae’n ddiogel ac yn ddianaf, meddai ei staff.

Mae llywodraethwr talaith Parwan yn dweud fod y ffrwydrad wedi digwydd tra bod y rali yn ei hanterth, wrth fynedfa’r lleoliad. Nid oes yr un grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn.

Ar draws Affganistan, mae ymosodiadau yn dal i ddigwydd wrth i’r wlad baratoi ar gyfer etholiadau arlywyddol yn ddiweddarach y mis hwn.