Mae gwasanaeth angladdol Robert Mugabe, cyn-Arlywydd Zimbabwe, wedi cael ei gynnal yn Harare.
Ond fydd corff y dyn a fu farw’n 95 oed yn Singapôr yr wythnos ddiwethaf, ddim yn cael ei gladdu am fis arall tan bod beddrod addas yn cael ei adeiladu ar ei gyfer.
Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Stadiwm Chwaraeon Genedlaethol Harare, ac fe roddodd nifer o arweinwyr Affricanaidd a sawl cyn-arlywydd deyrngedau iddo gerbron torf o hyd at 20,000.
Roedd yn arweinydd ar y wlad rhwng 1980 a 2017, cyn cael ei symud o’r neilltu yn dilyn cyfnod economaidd ansefydlog.
Fe fu dros 100,000 o bobol yn galw ar iddo ymddiswyddo ar y pryd.
Serch hynny, mae’n ymddangos bod bywyd yn Zimbabwe yn waeth ers i Emmerson Mnangagwa ei ddisodli yn ôl rhai.