Mae gwrthryfelwyr Houthi yn Yemen yn dweud mai nhw oedd yn gyfrifol am y cyrchoedd awyr ar ffatri olew fwya’r byd yn Saudi Arabia sydd wedi achosi ffrwydrad a thân mawr.
Saudi Aramco sy’n gyfrifol am y ffatri.
Dydy hi ddim yn glir a gafodd unrhyw un ei anafu yn yr ymosodiadau yn Buqyaq a maes olew Khurais, na pha effaith fydd yr ymosodiadau’n ei chael ar gynhyrchu olew yn y wlad.
Mae disgwyl i densiynau gynyddu yn y rhan honno o’r byd yn sgil yr ymosodiadau.
Mae Houthi yn derbyn cefnogaeth gan Iran wrth iddyn nhw wynebu rhyfel yn Yemen sy’n cael ei yrru gan Saudi Arabia.
Mae ymchwiliad ar y gweill, yn ôl yr awdurdodau.
Dydy’r cwmni olew ddim wedi ymateb hyd yn hyn.