Mae’r awdurodau ar ynys Sumatra yn Indonesia wedi cau’r maes awyr oherwydd y mwg sydd wedi’i achosi gan danau gwyllt.

Dywedodd swyddog yn y maes awyr, Yogi Prasetyo, bod rhai awyrennau wedi llwyddo i lanio cyn hanner dydd, amser lleol, heddiw (dydd Gwener, Medi 13) yn y brif faes awyr yn Pekanbaru, prifddinas talaith Riau.

Ond mae llawer o gwmniau hedfan wedi gohirio teithiau oherwydd y mwg trwchus.

Roedd llygredd awyr wedi cyrraedd lefel argyfyngus yn nhaleithiau Riau a Jambi gan orfodi’r rhan fwyaf o ysgolion i gau er mwyn diogelu’r plant rhag y mwg.

Mae ffigurau gan yr adran iechyd yno yn dangos bod mwy na 300,000 o bobl wedi dioddef problemau anadlu ers i’r tanau ddechrau.

Bron bob blwyddyn mae tanau gwyllt yn Indonesia yn achosi mwg trwchus ar draws y rhanbarth. Mae nifer o’r tanau yn cael eu cynnau’n fwriadol er mwyn clirio’r tir.