Mae grŵp bach o seneddwyr yn nhalaith De Carolina yn yr Unol Daleithiau yn cynnal gwrandawiad ar wahardd bron pob un erthyliad yn y dalaith.

Fe gafodd y mesur sy;’n gwahardd bron pob erthyliad ar ôl i guriad calon y ffetws gael ei ganfod tua chwe wythnos i mewn i feichiogrwydd, ei basio yn gynharach eleni. Mae wedi cael cefnogaeth frwd gan y llywdraethwr, Henry McMaster.

Mae cefnogwyr yn gobeithio y bydd gwrandawiad heddiw yn rhoi mwy o amser i’r bil basio pan fydd Deddfwrfa De Carolina yn dychwelyd ym mis Ionawr.

Fe wnaeth Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn 1973 gyfreithloni erthyliad ledled y wlad.

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi enwebu dau farnwr ceidwadol sy’n pwyso i’r panel yn llwyddiannus gyda grwpiau gwrth-erthyliad yn gobeithio herio’r gyfraith.