Bydd 11 o barciau a safleoedd treftadaeth yn ardal y Cymeodd yn derbyn mwy na £6.6m rhyngddyn nhw mewn ymgais i “wireddu uchelgais” parc rhanbarthol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bwriad Parc Rhanbarthol y Cymoedd yw gwneud y gorau o dreftadaeth yr ardal.

Mae’r parc wedi ei rannu’n ‘Byrth Darganfod’, ac mae Llywodraeth Cymru a Thasglu’r Cymoedd wedi clustnodi arian ar gyfer eu gwella a’u hehangu.

Bydd yr arian yn mynd tuag at brosiectau fel y llwybr beicio newydd ym Mharc Gwledig Cwm Dâr; canolfan ymwelwyr newydd ym Mharc Penallta; a gwaith atgyweirio yn Amgueddfa Mwyngloddio Cefn Coed.

‘Dod â threftadaeth yn fyw’

Cafodd y cyllid ei gyhoeddi gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a’r Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, yn ystod ymweliad ag Amgueddfa Mwyngloddio Cefn Coed.

“Mae wedi bod yn wych ymweld ag Amgueddfa Mwyngloddio Cefn Coed heddiw a dysgu am y cynlluniau cyffrous sydd ganddyn nhw fel Porth Darganfod,” meddai Mark Drakeford.

“Yn ogystal â dod yn gyrchfannau yn eu rhinwedd eu hunain, mae gan Byrth Darganfod gyfle gwych i adrodd straeon y Cymoedd ac annog pobol leol ac ymwelwyr i grwydro o gwmpas ardaloedd cyfagos, gan gynnwys trefi a phentrefi lleol, a’r dirwedd ehangach.

“Rwy’n falch iawn y bydd cymorth Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i ddod a hanes, diwylliant ac asedau naturiol yr ardal yn fyw ac edrychaf ymlaen at weld hynt y prosiectau pwysig hyn er budd y rhanbarth.”

Y safleoedd

Bydd y parciau a’r safleoedd canlynol yn elwa o’r cyllid:

o Amgueddfa Mwyngloddio Cefn Coed;

o Parc Penallta;

o Parc Gwledig Cwm Dâr;

o Parc Gwledig Bryngarw;

o Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon;

o Parc Cyfarthfa;

o Fforest Cwmcarn;

o Castell Caerffili;

o Parc Brynbach;

o Parc Slip;

o Parc Coffa Ynysangharad.