Mae storm Dorian, sydd eisoes wedi taro nifer o ynysoedd y Caribî a’r Unol Daleithiau yn achosi corwynt ar arfordir dwyrain Canada, gan adael cannoedd o filoedd o bobol heb drydan.
Mae’r gwyntoedd cryfion wedi troi craen mawr ar ei ochr ac wedi rhwygo toeon oddi ar adeiladau yn ninas Halifax.
Mae lle i gredu bod gwyntoedd ar eu cryfaf yn 80 milltir yr awr.
Yn y cyfamser, mae’r awdurdodau yn y Bahamas yn ceisio dod o hyd i loches i ddegau o filoedd o bobol sy’n ddi-gartref ers y storm sydd wedi arwain at 49 o farwolaethau hyd yn hyn.