Mae nifer o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i deiffŵn Lingling daro Gogledd Corea a De Corea.

Bu farw pump o bobol yng Ngogledd Corea, a chafodd tri o bobol eu hanafu.

Cafodd tri o bobol eu lladd yn Ne Corea, gyda 13 yn rhagor wedi cael eu hanafu.

Mae cannoedd o gartrefi wedi’u dinistrio yng Ngogledd Corea, a 15 o adeiladau cyhoeddus wedi’u dymchwel ac mae cryn lifogydd mewn rhai ardaloedd.

Mae disgwyl i nifer y meirw godi eto.

Mae Kim Jong Un wedi galw cyfarfod brys i ymateb i’r sefyllfa.