Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn 18 oed a gafodd ei drywanu yn nwyrain Llundain wedi arestio dau unigolyn arall mewn perthynas â’r digwyddiad.

Cafwyd hyd i Santino Angelo Dymiter wedi’i anafu yn ardal Plaistow ar Awst 26, ond fe fu farw yn y fan a’r lle.

Mae llanc 16 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae dyn 24 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r ddau yn y ddalfa yn nwyrain Llundain.

Roedd llanc 14 oed eisoes wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae wedi’i gyhuddo o fod ag arf mewn lle cyhoeddus.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron yr Old Bailey ddydd Mawrth.