Mae De Affrica wedi cau ei llysgenhadaeth ym mhrifddinas Nigeria yn sgil protestiadau tanllyd.
Dros y dyddiau diwethaf mae torfeydd o bobol wedi bod yn dinistrio siopau a nwyddau yn Johannesburg, De Affrica; a daw protestiadau Nigeria yn ymateb i hynny.
Yn ôl swyddogion, dyw’r llysgenhaty ddim wedi cael ei ddifrodi a chafodd ei gau oherwydd pryderon am ddiogelwch staff.
Daw’r cam i gau’r adeilad yn sgil llu o ddigwyddiadau treisgar yn Nigeria.
Mewn rhai o ddinasoedd y wlad mae siopau sydd â’u pencadlysoedd yn Ne Affrica wedi cael eu hymosod.
Yn ôl heddlu Nigeria, mae staff diogelwch bellach wedi cael eu hanfon at lysgenhatai tramor a busnesau tramor ledled y wlad.