Mae disgwyl i Boris Johnson lansio ymdrech arall i geisio symud at etholiad cynnar cyn i’r Senedd gael ei brerogio. Ond mae Arweinydd y Tŷ, Jacob Rees-Mogg eisoes wedi dweud wrth Aelodau Seeddol y bydd pleidlais yn digwydd ddydd Llun nesaf (Medi 9).

Methodd ymdrech gyntaf y Prif Weinidog i alw etholiad cynnar mewn chwalfa o bleidlais nos Fercher (Medi 4), gan nad enillodd gefnogaeth dau draean o aelodau.

Fe bleidleisiodd 298 i 55 – o blaid etholiad cynnar. Ond mae angen i ddwy ran o dair o’r Aelodau Seneddol i ennill y bleidlais, felly roedd Boris Johnson 136 fôt yn brin o’r nod.

Ymatal rhag pleidleisio wnaeth y blaid Lafur wrth i Jeremy Corbyn ddweud wrth y llywodraeth i alluogi deddfwriaeth gyda’r bwriad o atal y llywodraeth rhag gorfodi Brexit heb gytundeb i glirio’r Senedd, gan ychwanegu: “Yna fe gefnogwn ni etholiad.”