Map o Yemen
Mae pennaeth y wasg cangen Yemen o al Quaida a chwech arall wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad o’r awyr gan awyrennau di-beilot Americanaidd yn ôl Gweinyddiaeth Amddiffyn Yemen.

Dywedodd llefarydd ar ran y weinyddiaeth bod y chwech wedi cael eu lladd yn nhalaith de-ddwyrain Shabwa.

Roedd aelodau o deulu clerigwr Mwslemaidd o Americanwr laddwyd bythefnos yn ôl  hefyd ymhlith y rhai fu farw yn ol rhai adroddiadau sydd heb eu cadanrhau hyd yn hyn. Lladdwyd Anwar al-Awlaki oedd yn llefarydd grymus ar ran al Quaida mewn ymgyrch gyffelyb ac mae pennaethiaid llwythau yn yr ardal yn deud bod ei fab ymhlith y rhai laddwyd neithiwr.

Mae’n ymddangos bod Washington yn defnyddio awyrennau di-beilot fwy-fwy yn ddiweddar er mwyn cael gwared â’r hyn y mae nhw’n ei ystyried yn fygythiad terfysgol gan grwp sy’n cynllwynio i ymosod ar yr Unol Daleithau