Belfast
Mae’r heddlu wedi dod o hyd i ddau ddyfais ffrwydrol yn ystod archwiliad o adeilad yn ne Belfast.
Bu’n rhaid i drigolion adael nifer o gartrefi cyfagos yn Rhodfa Donegall am fod y dyfeisiadau yn “hyfyw’ yn ôl yr heddlu.
Mae arbenigwyr y fyddin bellach wedi gwneud y dyfeisiadau yn ddiogel.
Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, daethpwyd o hyd i’r ffrwydron yn ystod ymgyrch benodol i droseddau difrifol.