Sam Warburton
Mae capten tîm rygbi Cymru Sam Warburton wedi cael ei anfon o’r cae yn y gêm rhwng Cymru a Ffrainc yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd. Fe wnaeth y dyfarnwr Alain Rolland ddangos y cerdyn coch iddo am dacl peryglus ar y Ffrancwr Vincent Clerc ar ol 18 munud o chwarae.
Golyga hyn y gall Warburton golli’r gêm nesaf, sef un ai gêm olaf y twrnament neu’r gêm i ganfod pwy fydd yn drydydd a phedwerydd.
Warburton yw’r ail Gymro erioed i’w anfon o’r maes mewn gêm Cwpan y Byd. Huw Richards o Seland Newydd oedd y cyntaf yn 1987.
Mae miloedd yn gwylio’r gêm yn Eden Park yn Auckland , yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ac ym mhob cwr o Gymru.