Sam Warburton, Capten Cymru

Mae dros 60,000 o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd wedi cychwyn gwylio’r gêm rygbi rhwng Cymru a Ffrainc yng ngornest Cwpan y Byd a hynny ar y sgrin symudol fwyaf yn y byd.

Mae’r gêm ei hun yn cael ei chwarae yn Eden Park, Auckland yn Seland Newydd

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gosod y sgrîn ynghanol y cae ac mae’r gem yn cael ei gweld arni hi a hefyd ar y ddwy sgrîn barhaol sydd yno.

Os bydd Cymru’n ennill, dyma fydd y tro cyntaf erioed iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ymhlith y dorf yn y stadiwm gan ddweud mai dyma gyfle sy’n codi ond unwaith bob cenhedlaeth i hybu Cymru o amgylch y byd.

Mae sgrîn enfawr ar Sgwar y Castell yn Abertawe hefyd a thafarndai a chlybiau o Fôn i Fynwy wedi agor yn gynnar er mwyn dangos y gêm.

Yn eu plith mae tafarn y Fox and Hounds yn Bancyfelin Sir Gaerfyrddin. Er mai dim ond rhyw 300 o bobl sy’n byw yn y pentref mae dau aelod o’r tîm, sef Mike Phillips a Jonathan Davies yn dod oddi yno.

Draw yn Seland Newydd, roedd Capten Cymru, Sam Warburton wedi dweud bod y tîm i gyd wedi gwirioni efo maint y gefnogaeth adref.

“Mae’n anhygoel meddwl bod Stadiwm y Mileniwm yn mynd i fod mor llawn a ninnau’n chwarae gêm miloedd o filltiroedd i ffwrdd”, meddai.

Dros Glawdd Offa mae’r Ddraig Goch eisoes yn chwifio uwchben 10 Stryd Downing a Maer Llundain Boris Johnson wedi trydar ei gefnogaeth yn Gymraeg gan ddweud “Pob lwc i’r Cymry yn erbyn Ffrainc. I’r gad!”