Cwpan Rygbi'r Byd
Bydd mwy o Gymry yn gwylio’r gêm rygbi rhwng Cymru a Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd y bore yma na fydd yna yn stadiwm Eden Park yn Auckland, Seland Newydd.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, bydd 65,000 yn gwylio’r gêm ar sgriniau mawr yng Nghaerdydd ond dim ond lle i 60,000 o gefnogwyr sydd yna yn Eden Park.

Mae’r gêm yn cychwyn am 9.00 y bore yma yn ôl ein hamser ni ac eisoes mae cefnogwyr wedi cychwyn tyrru tua’r stadiwm. Os bydd Cymru’n ennill, dyma fydd y tro cyntaf erioed iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd.

Bydd sgrîn enfawr ar Sgwar y Castell yn Abertawe a bydd tafarndai a chlybiau o Fôn i Fynwy yn agor yn gynnar er mwyn dangos y gêm.

Bydd tafarn y Fox and Hounds yn Bancyfelin Sir Gaerfyrddin yn sicr ar agor y bore yma. Er mai dim ond rhyw 300 o bobl sy’n byw yn y pentref mae dau aelod o’r tîm, sef Mike Phillips a Jonathan Davies yn dod oddi yno.

Draw yn Seland Newydd, mae Capten Cymru, Sam Warburton wedi dweud bod y tîm i gyd wedi gwirioni efo maint y gefnogaeth adref.

“Mae’n anhygoel meddwl bod Stadiwm y Mileniwm yn mynd i fod mor llawn a ninnau’n chwarae gêm miloedd o filltiroedd i ffwrdd”, meddai.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y bydd Cymru yn sicr o elwa o lwyddiant y tîm cenedlaethol.

“Mae hyn yn rhoi’r math o sylw i ni ym mhedwar ban byd na all arian ei brynu,” meddai.

Mae’r Ddraig Goch eisoes yn chwifio uwchben 10 Stryd Downing a Maer Llundain Boris Johnson wedi trydar ei gefnogaeth yn Gymraeg gan ddweud “Pob lwc i’r Cymry yn erbyn Ffrainc. I’r gad!”