Mae dynes a’i cheiliog wedi ennill achos llys yn Ffrainc tros achos o niwsans sŵn.

Roedd cymdogion Corinne Fesseau, sydd o ynys Oleron oddi ar arfordir Ffrainc, wedi dwyn achos yn ei herbyn gan gyhuddo’r ceiliog o wneud gormod o sŵn.

Ond bellach mae’r llys wedi dyfarnu o blaid ffowlyn a’i berchennog, ac mae disgwyl i’r ddau gymydog dalu iawndal £895 i’r ddynes.

Yn ôl y cyfreithiwr Corinne Fesseau roedd Julien Papineau “yn hapus ac mi griodd pan ddywedais wrthi am benderfyniad y llys.”

Mae’r achos yma ynghyd ag achosion tebyg – yn ymwneud â chlychau eglwysi ac aroglau ffermydd – wedi tanio trafodaeth genedlaethol yn Ffrainc.