Mae’r Taliban wedi amddiffyn hunanfomiwr ym mhrifddinas Affganistan sydd wedi lladd 16 o bobol ddiniwed ac anafu 19 arall – oriau’n unig wedi i gynrychiolydd yr Unol Daleithiau gyhoeddi eu bod wedi ysgwyd llaw ar “gytundeb mewn egwyddor” gyda’r gwrthryfelwyr.

Mae trigolion Kabul sydd wedi’u gwylltio gan y datblygiadau diweddaraf, wedi dringo dros ran o wal yn y ‘Green Village’ a gosod y lle ar dân.

Mae mwg trwchus i’w weld yn codi o’r fan sy’n gartref i niferl o sefydliadau rhyngwladol a gwestai.

Mae adroddiadau yn dweuud fod pobol yn sgrechian a gweiddi yn yr ardal gan ddweud fod eu plant yn sownd o dan rwbel adeiladau a gafodd eu difrodi gan y ffrwydrad.

Mae’r Taliban wedi bod yn cadw at eu hymgyrch fomio hyd yn oed yn ystod y trafodaethau gydag America.