Mae cynghorydd Plaid Cymru o Fôn wedi mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i gwestiynu doethineb arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan am gefnogi un o’r pedwar sydd wedi rhoi eu henwau ymlaen i fod yn ymgeisydd seneddol nesaf y blaid ar yr ynys.

Mae Dylan Wyn Rees o Langefni wedi mynegi ar wefan Twitter ddoe (dydd Llun, Medi 2) bod Liz Saville Roberts yn tanseilio tri o’r ymgeiswyr yn syth bin, trwy ddweud mai cyn-ohebydd BBC Cymru, Aled ap Dafydd, ydi’r un y mae hi’n ei ffafrio.

“Felly, Liz, os ydi aelodau’r blaid ddim yn dewis Aled ap Dafydd yn ymgeisydd, a bod {un o’r tri arall} yn cael ei ethol yn Aelod Seneddol newydd Ynys Mon, yna rydych chi wedi’u tanseilio nhw cyn iddyn nhw ddechrau,” meddai Dylan Wyn Rees, sy’n gadeirydd Cyngor Mon ers mis Mawrth eleni.

Ac mewn neges arall heddiw (dydd Mawrth, Medi 3) mae Dylan Wyn Rees yn cyflwyno’r pedwar sydd wedi rhoi eu henwau ymlaen – ond gan wneud y pwynt eto y byddai’n “ddymunol” gweld pob un yn cael yr un chwarae teg.

Dim ond wrth i aelodau amlwg oddi fewn i Blaid Cymru “a ddylai wybod yn well” beidio â dangos ffafriaeth y byddai hynny’n digwydd, meddai.

Mae Dylan Wyn Rees yn mynd cyn belled â defnyddio’r cymal “trying to railroad the selection procecss” yn ei drydariad.

Fe gyhoeddodd Aled ap Dafydd ei fod yn gadael ei swydd yn brif ohebydd Newyddion 9 BBC Cymru  ddiwedd Gorffennaf eleni, a hynny er mwyn bod yn Gyfarwyddwr Strategaeth y blaid.