Mae gorsaf deledu yn irac wedi cael ei gwahardd, wedi iddo ddarlledu adroddiad am arweinwyr crefyddol llwgr y wlad.
Mae’r awdurdodau wedi dileu trwydded stesion deledu Alhurra sy’n cael ei arianu gan yr Unol Daleithiau am dri mis, am iddi ddarlledu rhaglen am lygredd honedig sefydliadau crefyddol Swni a a Shïaidd y wlad.
Roedd y rhaglen yn honni fod arweinwyr crefyddol yn elwa o fusnesau ac o’u cysylltiadau gyda’r llywodraeth.
Yn ôl Alhurra, roedd yr adroddiad yn un “teg, proffesiynol a chytbwys”.