Mae arweinydd Hong Kong yn sefyll yn gadarn yn wyneb protestiadau diweddar, gan ddweud nad yw hi erioed wedi cysidro ymddiswyddo yn wyneb sydd wedi aflonyddu’r ddinas am dri mis.

Fe gafodd Carrie Lam ei holi gan newyddiadurwyr yn dilyn adroddiad a gafodd ei ryddhau ddoe (dydd Llun, Medi 2) a oedd yn cynnwys tystiolaeth sain ohoni’n dweud wrth arweinwyr busnes y byddai’n ymddiswyddo pe bai ganddi ddewis.

“Dydw i erioed wedi cynnig ymddiswyddo, meddai Carrie Lam. “Dydw i ddim hyd yn oed wedi ystyried ymddiswyddo. Fy newis i oedd dewis peidio ag ymddiswyddo.”

Mae gwrthdrawiadau rhwng protestwyr a’r heddlu wedi troi yn fwy treisgar, gyda’r protestwyr yn taflu bomiau petrol at heddweision. Yn y cyfamser. mae’r awdurdodau yn dewis defnyddio canonau dŵr, nwy dagrau, bwledi rwber a batonau i geisio sathru’r protestiadau.