Dywed yr Arlywydd Donald Trump y bydd trafodaethau rhwng America a China i ddatrys rhyfel masnachol rhwng y ddwy wlad yn cychwyn yn fuan.

Mae’r anghydfod rhwng ei lywodraeth a llywodraeth China wedi arwain at dollau cynyddol ar nwyddau, gyda phryder y bydd yn arwain at niweidio economi’r byd.

Dywedodd fod rhywfaint o drafod anffurfiol eisoes yn digwydd rhwng y ddwy wlad, a bod y rhagolygon yn addawol.

“Dw i’n meddwl ein bod ni’n mynd i gael cytundeb,” meddai Donald Trump. “Maen nhw’n deall a rydym ni’n deall.

“Am y tro cyntaf dw i’n gweld bod arnyn nhw eisiau gwneud cytundeb – a dw i’n meddwl bod hynny’n gam cadarnhaol iawn.”

Tariffau

Daw ei sylwadau ar ôl iddo godi tariffau ar China yr wythnos ddiwethaf – a hynny ar ôl i China godi trethi ar fewnforion o America i dalu’n ôl am rownd flaenorol o fewnforion a gafodd eu trethu gan Donald Trump.

Fe wnaeth hefyd “orchymyn” corfforaethau Amercia i roi’r gorau i wneud busnes yn China.

Ddoe, roedd yn ymddangos fel pe bai’n gresynu am y rhyfel masnach, sy’n cael ei feio gan rai arbenigwyr am arwyddion o wendid yn economi’r Unol Daleithiau a’r byd.

Dywedodd y Tŷ Gwyn yn ddiweddarach fodd bynnag mai’r unig beth roedd Donald Trump yn edifar amdano oedd na osododd dariffau uwch fyth ar China.