Mae pobol wedi cael eu gorfodi i adael un o draethau mwyaf poblogaidd Barcelona yn dilyn pryderon am ffrwydron.
Dywed yr heddlu fod dyfais wedi cael ei darganfod ar draeth Sant Sebastia, sydd ryw filltir i ffwrdd o rannau hanesyddol y ddinas.
Mae lle i gredu y gallai fod yn ddyfais o’r Ail Ryfel Byd, ond dydy hynny ddim wedi cael ei gadarnhau eto.
Mae gorsaf radio leol yn dweud bod y ddyfais wedi dod i’r golwg yn y môr, ryw 40 milltir oddi ar y lan.
Mae’r gwasanaethau brys ar y safle.