Mae chwech o bobol wedi cael eu hanafu gan fellten, ar ôl iddi daro coeden 60 troedfedd yn ystod cystadleuaeth golff yn Atlanta.
Roedden nhw’n gwylio cystadleuaeth Cwpan FedEx, sy’n rhan o daith y PGA, pan gawson nhw eu hanafu.
Bu’n rhaid dod â’r chwarae i ben am hanner awr oherwydd stormydd, a chafodd y dorf orchymyn i geisio lloches.
Dywed llygad-dystion fod yna ffrwydrad ar ôl i’r fellten daro’r goeden lle’r oedd y bobol yn cysgodi rhag y tywydd.
Cafodd y chwarae ei chanslo am weddill y dydd yn dilyn y digwyddiad.