Mae byddin Brasil yn cynorthwyo’r ymdrechion i ddiffodd tanau mawr yr Amazon.
Mae disgwyl i oddeutu 44,000 o filwyr fod ar gael mewn pedair talaith sydd wedi gofyn am gymorth ffederal i fynd i’r afael â’r sefyllfa, sef Roraima, Rondonia, Tocantins a Para.
Yn y lle cyntaf, bydd 700 o filwyr yn cael eu hanfon i Porto Velho, prifddinas Rondonia.
Bydd awyrennau’n cael eu defnyddio i ollwng 12,000 litr o ddŵr ar y tanau.
Mae’r Arlywydd Jair Bolsonaro wedi cael ei feirniadu am y ffordd y bu’n ymateb i’r argyfwng, ond mae’n mynnu ei fod yn ymroi’n llwyr i ddatrys y sefyllfa.
Daw’r datganiad ganddo ar ôl iddo gyfeirio at warchod yr Amazon fel rhwystr i ddatblygiad economaidd y wlad.
Mae wedi’i gyhuddo gan sawl gwlad o esgeuluso’i ddyletswyddau.
Mae Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, yn galw am drafodaeth am y mater yn ystod uwch-gynhadledd y G7 yr wythnos hon.