Dileu cynllun ffordd liniaru’r M4 oedd “y penderfyniad cywir”, yn ôl Carwyn Jones, cyn-Brif Weinidog Cymru.
Fe fu’n trafod penderfyniad ei olynydd Mark Drakeford ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales fore heddiw (dydd Sul, Awst 25).
Roedd disgwyl i’r cynllun gostio £1.6bn, ond fe gafodd ei ddileu ym mis Mehefin yn sgil y gost a’i heffaith ar yr amgylchedd.
Y bwriad oedd codi ffordd newydd 14 milltir o hyd er mwyn lleddfu problemau traffig yn ardal Casnewydd, ond fe aeth y cynllun i drafferthion fis Rhagfyr y llynedd.
“Do’n i ddim yn hapus,” meddai Carwyn Jones.
“Un o’r pethau olaf wnes i ar yr M4 oedd mynd yn ôl at fy swyddogion a dweud ‘rhaid i chi orfodi’r gost i lawr, mae hyn yn ormod, rhaid ei gyflwyno ar bris is’ ac roedd yn mynd yn afreolus yn nhermau’r gost.”
Mae’n dweud bod y gost yn rhy uchel erbyn mis Medi neu Hydref y llynedd.
Roedd sicrhau ffordd newydd o amgylch Casnewydd yn rhan o faniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2016.
Costiodd ymchwiliad i’r ffordd liniaru o leiaf £44m.
Cynlluniau eraill yn dioddef
Tra bod Carwyn Jones yn dweud bod rhaid mynd i’r afael â’r sefyllfa yng Nghasnewydd, mae hefyd yn dweud y byddai cynlluniau mewn rhannau eraill o Gymru wedi dioddef pe bai’r ffordd liniaru wedi mynd yn ei blaen.
Mae comisiwn wedi’i sefydlu i archwilio opsiynau eraill.
“Felly bydden ni wedi gweld cynlluniau ffyrdd ledled Cymru ddim yn mynd yn eu blaenau oherwydd yr M4.
“Mae’n benderfyniad anodd.
“Dw i wedi dweud hyn sawl gwaith o’r blaen ond dw i ddim yn gwbl sicr y byddai fy mhenderfyniad wedi bod yn wahanol, a bod yn onest, oherwydd y gost.”