Mae miloedd o ffoaduriaid Rohingya yn cynnal protest ddwy flynedd union ers iddyn nhw gael eu halltudio o Myanmar i Bangladesh.
Fe fu’r protestwyr yn mynnu bod Myanmar yn rhoi dinasyddiaeth a hawliau eraill iddyn nhw cyn iddyn nhw ddychwelyd.
Does neb wedi cytuno i ddychwelyd o’u gwirfodd, gan nodi eu pryderon am eu diogelwch a’u diffyg hyder ym Myanmar.
Roedd disgwyl i’r broses o symud pobol ddechrau ar Awst 22 ond roedd yn ymgais aflwyddiannus unwaith eto, yn dilyn yr ymgais flaenorol fis Tachwedd y llynedd.
Mae Sheikh Hasina, prif weinidog Bangladesh, yn dweud na fydd grym yn cael ei ddefnyddio i orfodi pobol i ddychwelyd.
Mae mwy na miliwn o bobol Rohingya yn byw yn Bangladesh.