Mae protestwyr wedi bod yn taflu brics a bomiau petrol at yr heddlu yn Hong Kong, wrth iddyn nhw barhau i wrthwynebu llywodraeth y wlad.

Fe wnaeth yr heddlu ymateb drwy ddefnyddio nwy ddagrau wrth i’r helynt ddechrau eto ar ôl pythefnos o heddwch.

Roedd cannoedd o brotestwyr ar y strydoedd yn ymladd â’r heddlu ger gorsaf yr heddlu a chanolfan siopa, ac fe wnaeth y protestwyr osod blocâd ar sawl stryd.

Mae’r protestwyr yn galw am dynnu pyst i lawr yn sgil pryderon eu bod nhw’n cynnwys camerâu sy’n cael eu defnyddio gan yr awdurdodau at ddibenion diogelwch.

Ond mae’r llywodraeth yn mynnu mai gwarchod traffig, darogan y tywydd a sicrhau ansawdd yr aer yw eu pwrpas.