Mae llanc 17 oed wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth merch 17 oed yng ngŵyl gerddoriaeth Leeds.

Mae lle i gredu bod y ferch wedi cymryd cyffuriau.

Mae’r llanc wedi’i arestio mewn perthynas â’i marwolaeth, ac ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 3.40 fore heddiw (dydd Sadwrn, Awst 28) yn dilyn adroddiadau bod y ferch, oedd yn hanu o Oldham, wedi marw.

Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd, ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan yr heddlu.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau sut yn union y bu farw, ond maen nhw’n dweud ei bod hi wedi cymryd cymysgedd o wahanol gyffuriau cyn ei marwolaeth.

Daw ei marwolaeth ddiwrnod yn unig ar ôl i’r trefnwyr rybuddio am “gyffuriau cryf a pheryglus” ar y safle.