Mae Llywodraeth Brasil yn cwyno ei bod hi’n cael ei thargedu yn sgil pryderon rhyngwladol ynglŷn â’r tanau gwyllt yn fforest drofannol yr Amazon.
Mae’r bygythiad i “ysgyfaint y byd” wedi creu ffrae fawr ynglŷn â phwy sydd ar fai am y broblem, a hynny ar adeg pan mae Arlywydd Brasil yn dweud bod cyfreithiau sy’n amddiffyn fforestydd glaw y wlad yn rhwystr i ddatblygid economaidd.
Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi disgrifio’r tanau gwyllt yn “argyfwng rhyngwladol”, ac mae’n galw am drafodaeth ynglŷn â’r mater yn uwchgynhadledd y G7 y penwythnos hwn.
Dywedodd yr Arlywydd: “Mae ein tŷ yn llosgi. Yn llythrennol. Mae fforestydd glaw’r Amazon – yr ysgyfaint sy’n cynhyrchu 20% o ocsigen ein daear – ar dân.”
Mewn ymateb, mae Arlywydd Brasil, Jair Bolsonaro, wedi cyhuddo Emmanuel Macron o geisio “sgorio pwyntiau gwleidyddol personol”.
“Mae’r dôn ymfflamychol mae wedi ei defnyddio yn gwneud dim i ddatrys y broblem,” ychwanega.