Mae dyn o Indonesia yn bwriadu cerdded cannoedd o filltiroedd tuag yn ôl er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddad-goedwigo.
Bydd Medi Bastoni yn cerdded 430 milltir o’i bentref yn nwyrain Java, i brifddinas y wlad, Jakarta, ac mae’n gobeithio cwrdd â’r Arlywydd yno.
Mae drych wedi cael ei osod ar ei fag er mwyn ei rwystro rhag bwrw mewn i bethau wrth iddo gerdded am yn ôl, ac mi fydd yn cysgu mewn mosgiau a gorsafoedd heddlu wrth deithio o le i le.
Ers sawl blwyddyn, mae datgoedwigo wedi bod yn digwydd yn gyflymach yn Indonesia nag mewn unrhyw wlad arall.
Cwmnïau papur ac olew palmwydden sydd yn elwa o hyn fwyaf, a ledled y wlad mae’n digwydd ar draul cymunedau a’r amgylchedd.