Mae arlywydd Ffrainc wedi lleisio parodrwydd i drafod y ddêl Brexit ymhellach â’r Deyrnas Unedig – ond mae wedi rhybuddio nad oes modd hepgor y backstop.
Mae Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi galw am ddileu y backstop, sef trefniant a fyddai’n osgoi ffin galed â Gweriniaeth Iwerddon wedi Brexit.
Ond yn siarad ym Mhalas Elysee dywedodd yr Arlywydd, Emmanuel Macron, bod y drefn yma yn “anhepgor” ac yn bwysig er lles Iwerddon.
Dywedodd ei fod yn cefnogi’r syniad o roi cyfle i’r Deyrnas Unedig drafod y ddêl Brexit ymhellach, ond rhybuddiodd na fyddai modd “addasu” pethau rhyw lawer.
“Fyddwn ni ddim yn llunio [dêl] newydd o fewn 30 diwrnod a fydd yn wahanol iawn i’r un sydd eisoes yn bodoli,” meddai gan gyfeirio at gyfyngiad amser a gafodd ei gynnig gan Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, ddydd Mercher (Awst 21).
“Gwas” i’r Unol Daleithiau
Daw’r sylwadau ddiwrnod wedi i Emmanuel Macron rhybuddio’r Deyrnas Unedig am oblygiadau Brexit. Mi allai’r Deyrnas Unedig ddiweddu fyny yn “isbartner” i’r Unol Daleithiau, meddai.
“A ydy’r Unol Daleithiau yn medru lleddfu cost Brexit caled i Brydain?” meddai. “Prydain fydd yn dioddef fwyaf, cofiwch. A ‘na’ yw’r ateb.
“Hyd yn oed pe bai [Brexit] yn benderfyniad strategol, byddai Prydain yn diweddu fyny yn was [i’r Unol Daleithiau].”