Mae Annwen Morgan wedi cael ei phenodi’n Brif Weithredwr, Cyngor Ynys Môn.
Mae’r wraig o Langefni ar hyn o bryd yn Ddirprwy Brif Weithredwr, ac fe fydd hi’n olynu Gwynne Jones yn y brif swydd yn dilyn ei ymddeoliad ym mis Hydref eleni.
Cyn cael ei phenodi yn un o uwch-swyddogion y cyngor yn 2016, bu Annwen Morgan yn brifathrawes ac athrawes Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Bodedern.
“Edrychaf ymlaen at adeiladu ar waith rhagorol fy rhagflaenydd, Dr Gwynne Jones, a pharhau i weithio â chydweithwyr a phartneriaid mewn cymunedau lleol ac ar draws pob sector o gymdeithas er mwyn darparu’r gorau i Ynys Môn,” meddai.
“Mae llywodraeth leol yn wynebu heriau sylweddol o ran cyllid yn y dyfodol ond rwy’n awyddus i ddechrau ar y gwaith ac i wneud fy ngorau ar gyfer pobol Ynys Môn.”