Mae De Corea wedi cefnu ar gytundeb cudd-wybodaeth â Japan wrth i densiynau rhwng y ddwy wlad ddwysáu.

Ers tair blynedd mae’r gwledydd wedi bod yn rhannu gwybodaeth gyfrinachol, a daw’r penderfyniad i ddiddymu hynny wedi i Japan osod cyfyngiadau ar ei allforion i Dde Corea.

Y ddwy wlad yma yw prif gynghreiriaid yr Unol Daleithiau yn nwyrain Asia, ac mae’r cam yn debygol o fod yn destun siom iddyn nhw.

Roedd sawl arbenigwr wedi dyfalu na fyddai De Corea yn cefnu ar y cytundeb cudd-wybodaeth oherwydd goblygiadau hynny i’w perthynas â’r Unol Daleithiau.

Allforion

Mae Japan wedi gosod cyfyngiadau llym ar allforio tri chemegyn penodol i Dde Corea, ac wedi tynnu’r wlad oddi ar restr o wledydd sy’n derbyn statws masnach ffafriol.

Mae angen y cemegion er mwyn creu sgriniau ac mae’r deunydd yma yn bwysig iawn i Dde Corea.

Barn y wlad honno yw bod Japan wedi cyflwyno’r camau yma oherwydd anghydfod tros fater hanesyddol – sef y gormes a brofodd De Corea dan ymerodraeth Japan.