Mae dyn 70 oed wedi’i riportio ar goll o dref Llanidloes.
Does neb wedi gweld Malcolm Brookes ers dydd Llun yr wythnos hon (Awst 19). Bryd hynny, roedd yn cerdded strydoedd canol y dref.
Mae’r heddlu, ynghyd â’i deulu, yn bryderus amdano.
Mae’n ddyn canolig o gorffolaeth, gyda gwallt brown a barf frown yn gorchuddio rhan waelod ei wyneb.