Fe allai tensiynau rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia gynyddu yn sgil profion ar daflegryn newydd.
Mae’r Pentagon wedi cadarnhau ei fod yn profi fersiwn o’r Navy Tomahawk cruise missile, sy’n gallu cyrraedd targed cyn belled â 310 o filltiroedd i ffwrdd.
Fe gafodd y prawf ei gynnal ar ôl i’r Unol Daleithiau a Rwsia roi’r gorau i gefnogi cytundeb a arwyddwyd rhwng y ddwy wlad yn 1987 a oedd yn gwahardd taflegrau o’r fath.
Ond mae Vladimir Putin wedi cyhuddo’r Unol Daleithiau o ddechrau gweithio ar y taflegryn ymhell cyn rhoi’r gorau i’r cytundeb.
Yn ôl yr arlywydd, mae yna “fygythiadau newydd” yn erbyn Rwsia, ac mae’r wlad yn bwriadu ymateb i hynny.