Mae’r awdurdodau yn Malaysia wedi cadarnhau mai corff y ferch golledig o wledydd Prydain, Nora Quoirin, a gafodd ei ganfod y bore yma (dydd Mawrth, Awst 13).
Roedd y ferch, 15, a oedd ag anghenion arbennig, wedi diflannu o barc gwyliau Dusun, lle roedd hi yn aros gyda’i theulu, dros wythnos yn ôl (Awst 4).
Daeth y cadarnhad am ei chorff gan lefarydd o’r Ymddiriedolaeth Lucie Blackman, sy’n delio ag ymholiadau gan y cyfryngau ar ran teulu’r ferch.
Ychwanegodd na fydd y teulu yn gwneud unrhyw ddatganiad pellach, a’u bod nhw’n gofyn am lonydd yn ystod “y cyfnod trychinebus hwn”.
Ers diflaniad Nora Quoirin bron i ddeng diwrnod yn ôl, mae 348 o bobol wedi bod yn chwilio amdani, a chafodd rhodd gwerth £10,000 ei roi i’w theulu gan fusnes di-enw o Belfast.
Mae mam y ferch yn dod o Ogledd Iwerddon, a’i thad o Ffrainc, ac roedd Nora Quoirin yn teithio ar basbort Gwyddelig, yn ôl adroddiadau. Mae’r teulu wedi bod yn byw yn Llundain ers cyfnod o 20 mlynedd.
Mae Llywodraeth Iwerddon a Llywodraeth Ffrainc wedi estyn eu cydymdeimlad at y teulu.