Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn, 43, gael ei anafu’n ddifrifol yn ystod digwyddiad yn nhref Y Rhyl.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Stryd yr Eglwys toc cyn 1.40yb heddiw (dydd Mawrth, Awst 13), lle dioddefodd ddyn anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd y dyn, sy’n byw yn lleol, ei gludo i’r ysbyty, ac mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Mae’r heddlu hefyd wedi dweud bod yr ardal yn Stryd yr Eglwys, lle digwyddodd y digwyddiad, ar fin ailagor.
“Byddwn yn agor yr ardal yn Stryd yr Eglwys ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r cyhoedd a’r gymuned fusnes lleol am eu hamynedd a’u help,” meddai Prif Arolygydd Sir Ddinbych, Andrew Williams.
“Hoffwn wneud apêl arall i unrhyw un gydag unrhyw wybodaeth, yn enwedig os oeddent yn ardal Stryd yr Eglwys rhwng 1.15yb a 1.30yb.”