Mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi anfon llythyr ar y cyd at Ysgrifennydd Addysg gwledydd Prydain yn lleisio pryder am ddyfodol rhaglenni cyfnewid Ewrop ar ôl Brexit.
Yn y llythyr i Gavin Williamson mae Gweinidogion Addysg Cymru a’r Alban, Kirsty Williams a Richard Lochead, yn galw ar y llywodraeth I sicrhau y bydd y rhaglen, sy’n caniatáu myfyrwyr i astudio dramor, barhau os daw Brexit heb fargen.
Yn ôl y Gweinidogion byddai Brexit heb fargen yn golygu y byddai prifysgolion, colegau, ac ysgolion ar draws gwledydd Prydain yn anghymwys i gyflwyno ceisiadau i gymryd rhan ym mlwyddyn olaf y rhaglen Erasmws + gyfredol yn 2020.
Alban yw’r wlad sydd a’r gyfradd fwyaf o fyfyrwyr yn cymryd rhan y rhaglen bob blwyddyn.
Mae amcangyfrif yn dangos bod dros 15,000 o fyfyrwyr a staff o’r Alban wedi cymryd rhan y rhaglen sydd yn cael ei harwain gan yr Undeb Ewropeaidd rhwng 2014 a 2018.
Yng Nghymru, rhwng 2014 a 2016 roedd 7,595 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan mewn rhaglen.