Mae dyn wedi ceisio trywanu nifer o bobol yn Sydney, Awstralia, wrth weiddi “Allahu akbar,” gydag un ddynes wedi cael ei chludo i’r ysbyty.
Yn ôl tystion, roedd y dyn yn dal cyllell fawr ac yn ceisio trywanu nifer o bobol ger cyffordd brysur heddiw (dydd Mawrth, Awst 13).
Dywed Heddlu New South Wales mewn datganiad fod y dyn wedi cael ei arestio, a bod y ddynes mewn cyflwr sefydlog.
Nid yw’n glir os oes pobol eraill wedi cael eu hanafu. Dywedodd yr heddlu ei fod yn gweiddi sylwadau ar grefydd, cyn dweud wrthyn nhw ei fod eisiau cael ei saethu.