Bu farw o leia 34 o bobol mewn tirlithriad yn Burma.
Cafodd dros ddwsin o dai eu claddu gan fwd mewn pentref yn ne-ddwyrain y wlad sy hefyd yn cael ei hadnabod fel Myanmar.
Mae achubwyr wedi bod yn defnyddio peiriannau codi baw a rhawiau i geisio cyrraedd y bobol o dan y mwd a’r llanastr yn agos i Paung, tua 70 milltir o’r brifddinas Yangon.
‘Dal ar goll’
Dywed y papur lleol, The Global New Light of Myanmar, fod rhai o’r trigolion dal ar goll.
Digwyddodd yr anffawd wedi llifogydd ddaeth yn sgil glaw trwm. Mae miloedd o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi i geisio cael lloches arall oherwydd y llifogydd.