ae corff milwr ifanc o Israel wedi cael ei ganfod mewn ardal yn y West Bank i’r de o Jerwsalem, yn ôl byddin  wlad.

Maen nhw hefyd yn dweud bod y milwr, sydd wedi cael ei adnabod yn Dvir Sorek, 19, wedi cael ei drywanu.

Cafodd corff y llanc ei ganfod ger ysgol filwrol yn y West Bank, lle roedd yn ddisgybl.

Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi disgrifio’r llofruddiaeth yn ymosodiad brawychol, ac mae wedi addo gweithredu yn erbyn y llofrudd.