Mae Gogledd Corea yn dweud fod eu harweinydd Kim Jong Un wedi goruchwylio profion ar system taflegrau newydd a all ehangu ei allu i danio taflegrau at dargedau yn Ne Corea a safleoedd byddin yr Unol Daleithiau yno.
Daw’r adroddiad gan Asiantaeth Newyddion Canolog Gogledd Corea ac ychydig yn wahanol i honiad byddin De Corea, sy’n dweud mai profion gyda thaflegrau pellter byr oedden nhw ddydd Mercher (Gorffennaf 31).
Dyma ail brawf arfau Gogledd Corea yn nhre arfordirol Wonsan mewn llai nag wythnos ac mae hi’n cael ei weld fel ymgais i gadw pwysau ar yr Unol Daleithiau a De Corea yng nghanol ansicrwydd trafodaethau niwclear.
Mae Pyongyan, prifddinas Gogledd Corea, hefyd wedi mynegi eu dicter ag ymarferion byddin rhwng yr Unol Daleithiau a De Corea.
Mae Kim Jong Un wedi dweud fod y profion wedi bod yn foddhaol, a dywed y byddai’r system rocedi sydd newydd ei datblygu yn gwasanaethu “prif rôl” yn eu cynlluniau, ac yn creu “problemau anochel i’r lluoedd fyddai’n cael eu targedu”.
Nid yw’r adroddiad yn sôn yn uniongyrchol am yr Unol Daleithiau na De Corea, ond dywed arbenigwyr y gallai’r system rocedi, ynghyd â thaflegrau amrediad byr newydd, fod yn fygythiad difrifol i De Corea.