Mae erlynwyr wedi cyhuddo cyn bennaeth y cwmni ceir Audi o dwyll am iddo werthu ceir diesel gyda meddalwedd sy’n galluogi’r ceir i dwyllo mewn profion allyriadau.
Dywed erlynwyr yn ninas Munich eu bod wedi cyhuddo Rupert Stadler a thri unigolyn arall.
Mae’r tri arall wedi cael eu cyhuddo o ddatblygu injans mewn modelau ceir Audi, Volkswagen a Porsche oedd yn gwneud y meddalwedd i weithio yn well.
Roedd Rupert Stadler yn gwybod am y twyllo, ond fe barhaodd i werthu’r ceir.
Fe gyfaddefodd Volkswagen o dwyllo yn 2015 ac fe dalodd y cwmni biliynau mewn dirwyon a chafodd dau o gyfarwyddwyr garchar yn yr Unol Daleithiau.