Mae gwleidyddion yn India wedi rhoi sêl eu bendith i fesur a fyddai’n dod â’r arfer o ysgariad cyflym wedi dwy flynedd o briodas, i ben – a hynny wedi i Oruchaf Lys y wlad ddeddfu ei fod yn mynd yn groes i hawliau merched Mwslimaidd.

Mae Senedd y wlad wedi pasio’r mesur ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 30), ac mae gweinidogion yn dweud ei fod yn gam positif yn y broses o ganiatau i fenywod gael mynegi eu hawl ar eu bywydau eu hynain. Mae hefyd, medden nhw, yn arwydd o’r newid sy’n digwydd yn India.

Fe gafodd y mesur ei basio yr wythnos ddiwethaf gan senedd-dy is India yr wythnos ddiwethaf, ac mae disgwyl iddi ddod yn gyfraith wedi i’r arlywydd ei awdurdodi.

Mae mwyafrif o’r 170 miliwn o Fwslimiaid yn India yn adnabod eu hunain fel ‘Swnni’, ac yn cael eu rheoli gan y Gyfraith Bersonol Fwslimaidd pan mae’n dod i faterion yn ymwneud â’r teulu

Mae’r gyfraith hon yn caniatau i ddynion Mwslimaidd ysgaru eu gwragedd trwy ddweud “Talaq”, y gair Arabeg am ‘ysgariad’ dair gwaith.

Mae mwy na 20 o wledydd bellach wedi gwahardd yr arfer.